BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 2024

person using braille and computer

Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD) ar 16 Mai 2024.

Pwrpas GAAD yw i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am fynediad a chynhwysiant digidol.

Mae pob defnyddiwr yn haeddu profiad digidol o'r radd flaenaf ar y we. Yr ymwybyddiaeth hon a'r ymrwymiad i gynhwysiant yw nod GAAD, sef digwyddiad byd-eang sy'n taflu goleuni ar fynediad a chynhwysiant digidol i bobl anabl.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Home - GAAD (accessibility.day)

Y Canllaw Arfer Da – Cefnogi Entrepreneuriaid anabl yng Nghymru

Datblygwyd y canllaw hwn gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau a chynghorwyr cymorth busnes am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, cynnal neu dyfu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.