BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd 2022

Eleni, cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd ddydd Gwener, 2 Rhagfyr 2022.

Mae’r National Energy Action (NEA) yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i'r rheiny sy'n byw mewn tlodi tanwydd a bydd yn rhannu ystod o adnoddau ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd #DiwrnodYmwybyddiaethTlodiTanwydd.

Mae NEA hefyd wedi cyfieithu eu dogfennau cynghori i wahanol ieithoedd er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cyrchu’r wybodaeth hon. 

Mae’r dogfennau cynghori yn cynnwys:

  • 10 prif awgrym am arbed ynni
  • Help gyda'ch costau ynni
  • Rhestr Wirio Ynni Eich Cartref

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Fuel Poverty Awareness Day (FPAD) - National Energy Action (NEA) 

Darganfyddwch fwy am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gartrefi i helpu gyda phwysau costau byw drwy glicio ar y ddolen ganlynol Cynllun cymorth tanwydd Cymru: 2022 i 2023 | LLYW.CYMRU a Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)

Gallai eich busnes dorri costau trwy ddefnyddio llai o ynni a dŵr, defnyddio llai o ddeunyddiau crai a lleihau gwastraff. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i fynd i dudalen Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru Resource Efficiency | Busnes Cymru (gov.wales)

I gael gwybodaeth gan Lywodraeth y DU am gymorth biliau ynni, cliciwch ar y ddolen ganlynol Energy bills support factsheet - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.