![Criccieth, Gwynedd, Wales, a man using his ride on mower to cut the grass on a hillside around his cabin.](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/shutterstock_1437316973.jpg.webp?itok=7b5o91S4)
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ddechrau paratoi i gynnal ailbrisiad arfaethedig o bob un o’r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru.
Fel rhan o hyn rydym wedi cysylltu â phreswylwyr sy’n byw ar ffermydd gweithiol neu mewn cartrefi symudol, yn gofyn am wybodaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i Gwybodaeth am ffermdai ac eiddo amaethyddol, a charafanau preswyl a chartrefi parc (holiadur) - GOV.UK
Mae angen i chi gwblhau’r holiadur hwn o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad yr ysgrifennodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio atoch yn gofyn am yr wybodaeth hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd safbwyntiau ar yr opsiynau ar gyfer diwygio Treth Gyngor yng Nghymru. Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghori drwy fynd i Diwygio'r Dreth Gyngor | LLYW.CYMRU
Nid oes unrhyw newidiadau ar hyn o bryd i fandiau Treth Gyngor.
Dim ond os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i’r VOA.