BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Gŵyl Dewi 2023 – sut bydd eich busnes chi’n dathlu?

Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2023!

Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.

Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.

Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y wlad ar 1 Mawrth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan  #CaruCymruCaruBlas | Business Wales - Food and drink (gov.wales)

Gwna’r Pethau Bychain

Dathla Dydd Gŵyl Dewi trwy wneud a rhannu'r Pethau Bychain. Dyn da oedd Dewi, a pha ffordd well i’w ddathlu nag i ddangos ein bod yn genedl gyfeillgar, llawn hwyl, sy’n barod i wneud y pethau da. Neges gan Dewi — o Gymru i’r byd.

Pa Bethau Bychain fyddi di’n eu dathlu? Rhanna dy ddewis hefo ni ar gyfryngau @CroesoCymru, @Cymraeg, neu wrth ddefnyddio #PethauBychain.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwna’r Pethau Bychain | Wales.com


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.