Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2023!
Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.
Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.
Yr Ymgyrch
Bydd yr ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 20 Chwefror wrth i Ddydd Gŵyl Dewi agosáu, a bydd yn dod i ben ddydd Mercher 1 Mawrth.
Fframiau Cyfryngau Cymdeithasol CaruCymruCaruBlas
Eleni bydd yna ffrâm ddigidol CaruCymruCaruBlas generig yn ogystal â ffrâm CaruCymruCaruBlas y gallwch ei haddasu. Mae’r ddwy ffrâm ar gael ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol canlynol:








Cymerwch ran, lawrlwythwch y fframiau digidol, a threfnwch eich cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnodau:
#CaruCymruCaruBlas
#LoveWalesLoveTaste
Fel arfer, byddai'n wych petawn yn paentio'r rhyngrwyd yn GOCH yn ystod yr ymgyrch!