Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2024!
Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.
Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.
Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, bydd eich cwsmeriaid yn gwerthfawrogi eich bod wedi dewis dathlu nawddsant y wlad ar 1 Mawrth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan: #CaruCymruCaruBlas | Business Wales - Food and drink (gov.wales)
Dydd Gŵyl Dewi: 01 Mawrth. Ein diwrnod cenedlaethol i ddathlu ein nawddsant trwy ‘wneud y pethau bychain’ sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Gwna’r Pethau Bychain…
Dathliad hwyliog o Gymru ar y cyfryngau cymdeithasol. Neges gan Dewi – o Gymru i’r byd. Dyma wahoddiad i ymuno â ni i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol drwy wneud dy beth bach Cymreig dy hun, a’i rannu ar gyfryngau cymdeithasol #PethauBychain
Beth yw’r Pethau Bychain?
- Hawdd i’w gwneud, ac yn gwneud gwahaniaeth mawr.
- Dathlu ein pobl a’n traddodiadau.
- Ac, yn fwy na dim, mae’n gwneud diwrnod rhywun ychydig yn well.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: