Mae'r ymgyrch ar draws y diwydiant cyfan - #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste - yn ôl yr hydref hwn, yn cynnig cyfle i fusnesau Bwyd a Diod o Gymru gefnogi Tîm Cymru yn ystod Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref a Chwpan y Byd Pêl-droed, a byddwn yn gofyn i gwsmeriaid Cymreig a Phrydeinig ddangos eu balchder cenedlaethol – i #CaruTîmCymru #LoveTeamWales.
Bwriad y pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol hwn yw eich helpu i hyrwyddo'r ymgyrch drwy eich cyfathrebiadau marchnata, ac annog cwsmeriaid Cymreig a Phrydeinig i rannu eu balchder a'u hangerdd, a dathlu gyda Bwyd a Diod Cymru!
Bydd yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn mynd rhagddo ddechrau mis Tachwedd, a byddwn yn dathlu drwy gydol y mis.
Mae dyddiadau gemau allweddol i chi gymryd rhan yn yr ymgyrch a threfnu eich negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ymlaen llaw gan ddefnyddio'r pecyn cymorth a ddarperir, wedi'u rhestru isod:
Dyddiadau Allweddol
Gemau Rygbi:
- 5 Tachwedd: Cymru yn erbyn Seland Newydd
- 12 Tachwedd: Cymru yn erbyn yr Ariannin
- 19 Tachwedd: Cymru yn erbyn Georgia
- 26 Tachwedd: Cymru yn erbyn Awstralia
Gemau Pêl-droed:
- 21 Tachwedd: Cymru yn erbyn yr UDA
- 25 Tachwedd: Cymru yn erbyn Iran
- 29 Tachwedd: Cymru yn erbyn Lloegr
Cymerwch ran, lawrlwythwch y fframiau digidol, a threfnwch eich cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ymlaen llaw.
Cofiwch gynnwys y tagiau #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fframiau Cyfryngau Cymdeithasol Caru Cymru
Asedau Cyfryngau Cymdeithasol Rygbi







Asedau Cyfryngau Cymdeithasol Pêl-droed






