BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Mawrth Porffor 2024

Assistance dog in a shopping centre

Mae Dydd Mawrth Porffor yn fudiad cymdeithasol byd-eang a’r brand sydd ar y brig ar gyfer gwella profiad cwsmeriaid i bobl anabl a’u teuluoedd 365 diwrnod y flwyddyn.

Ar hyn o bryd amcangyfrifir bod pŵer gwario pobl anabl a’u haelwydydd ledled y byd yn werth $13 triliwn, ac yn cynyddu 14% y flwyddyn. Dim ond 10% o fusnesau sydd â strategaeth wedi’i thargedu ar gyfer y farchnad enfawr hon ac mae 75% o bobl anabl a’u teuluoedd wedi cefnu ar fusnes oherwydd hygyrchedd neu wasanaeth cwsmeriaid gwael.

Mae'r fenter yn ysbrydoli arweinwyr a staff sefydliadau o bob sector a maint i feithrin ymwybyddiaeth, dyfnhau dealltwriaeth, a gweithredu atebion ar gyfer cynnig gwell hygyrchedd yn eu hamgylcheddau i gwsmeriaid. Mae’r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn ymroddedig i wneud un ymrwymiad newydd i wella eu hygyrchedd a'u hymarfer, gweithredu'r gwelliant, sicrhau bod cwsmeriaid anabl yn cael profiad mwy cynhwysol a chadarnhaol ac ymuno â'r dathliadau byd-eang ar 12 Tachwedd 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Global Accessibility Inspiration (purpletuesday.co)

Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru

Darllenwch y canllaw, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes ac i gynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n datblygu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi: Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.