BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dyfarniad ‘Do It’ UnLtd

Oes gennych chi syniad neu a ydych chi’n gwneud gwahaniaeth yn barod ac yn chwilio am gymorth i ddatblygu eich menter gymdeithasol?

Beth am wneud cais am Ddyfarniad ‘Do It’ UnLtd?

Mae’r dyfarniad yn cynnig cyllid a chymorth ar y cyd i’ch helpu i ddechrau arni neu dyfu. Mae’r cynnig am hyd at £18,000, yn dibynnu ar gam eich datblygiad. 

Gellir cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb trwy gydol y flwyddyn – wele’r dyddiadau isod:

Derbynnir ceisiadau o  Derbynnir ceisiadau tan
1 Ionawr 2023 31 Mawrth 2023    
1 Ebrill 2023 30 Mehefin 2023    
1 Gorffennaf 2023 30 Medi 2023
1 Hydref 2023  31 Rhagfyr 2023

Mae UnLtd yn ymrwymo i ddefnyddio’u hadnoddau i yrru newid. Bydd o leiaf 50% o’r Dyfarniadau’n cefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n dod o gefndir anabl a/neu Ddu, Asiaidd neu ethnig leiafrifol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan UnLtd.

Os ydych chi’n ystyried dechrau neu redeg busnes cymdeithasol, beth am fynd i dudalennau Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales) am wybodaeth.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.