Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru flaengar, fodern ar y llwyfan byd-eang a ddarperir gan Gwpan y Byd FIFA yn Qatar wedi eu datgelu gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw (15 Tachwedd 2022).
Bydd yr ymgyrch yn cyflwyno gwerthoedd Cymru a sicrhau gwaddol cadarnhaol o weld Cymru yn cystadlu yn yr ymgyrch Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd.
Gyda llai nag wythnos i fynd nes bod Cymru'n chwarae'r gêm grŵp gyntaf yn erbyn UDA, mae rhaglen o weithgareddau Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau mewn ymgais i arddangos y gorau o Gymru ar lwyfan byd-eang a chyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi cyn bêl-droediwr Cymru, yr Athro Laura McAllister, enillydd medal arian Olympaidd - a Phencampwr y byd - Colin Jackson CBE, y DJ a'r cyflwynydd o Lundain, Katie Owen, a'r Cogydd adnabyddus Bryn Williams, fel 'Lleisiau Cymru'.
Bydd tîm ‘Lleisiau Cymru’ o lysgenhadon yn leisiau dylanwadol dros Gymru yn Qatar. Maent yn ymuno ag Ian Rush a Jess Fishlock, y ddau yn llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Dyma Gymru - mynd â Chymru i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA | LLYW.CYMRU
P'un a ydych yn ystyried dechrau busnes twristiaeth newydd, eich bod eisoes wedi cymryd y camau cyntaf neu am ddatblygu'ch busnes presennol, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Twristiaeth | Drupal (gov.wales)