BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Eglurder – eich cynnig gwerth

Mae’r cwmni sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn siarad â chwsmeriaid yn eu hiaith eu hunain. Iaith buddion yw’r iaith hon – sut mae eich nwyddau neu’ch gwasanaeth yn gwella’u bywyd. Iaith effaith ydyw hefyd – sut rydw i’n cael adenillion ar fy muddsoddiad yn sgil hyn. Ac, yn olaf, iaith tystiolaeth ydyw – dangoswch y dystiolaeth i mi.

Yn Winning Pitch, rydym yn dilyn y canlynol:

  • Nodweddion 
  • Effaith 
  • Tystiolaeth 
  • Buddion

Mae wir yn anhygoel pa mor aml nad yw cwsmeriaid, hyd yn oed prynwyr a phenwyr proffesiynol addysgedig, yn deall sut mae nodweddion eich cynnyrch yn troi’n fuddion mewn gwirionedd. Felly, mae’r cwmni sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn ei gwneud hi’n hawdd iddynt; mae’n egluro’r buddion, yn crynhoi’r effaith ac yn darparu tystiolaeth gadarn – trwy dystebau, astudiaethau achos a safleoedd cyfeirio yn nodweddiadol.  

Mae un o’n tîm yn cofio’n annwyl am un o’i aseiniadau ymgynghori cyntaf. Roedd hwn gyda chwmni a oedd yn gweithgynhyrchu drysau diwydiannol ynysedig enfawr a ddefnyddir mewn storfeydd oer h.y. y cyfleusterau lle mae archfarchnadoedd yn cadw eu nwyddau rhewedig cyn iddynt gael eu cludo i’r siopau adwerthu. Roedd marchnata’r cwmni yn clodfori’r rhinwedd bod ei ddrysau ‘wedi’u hynysu â pholywrethan caled yn ei le’ – nodwedd. Eto, methodd eu cwsmeriaid a’u penwyr werthfawrogi rhinweddau nodwedd o’r fath - priodweddau ynysu gwell yn arwain at filiau ynni a chostau rhedeg llawer is i weithredwyr storfeydd oer. At hynny, gallai’r cwmni ddangos yr adenillion a thystiolaeth gadarn o safleoedd cyfeirio.   

Neges y stori yw bod yn eglur, yn eich gohebiaeth unigol a’ch gohebiaeth dorfol â chwsmeriaid. Trowch y nodweddion yn fuddion – a throwch y buddion yn effeithiau (arbedion, adenillion ar fuddsoddiad) a defnyddiwch ffeithiau moel i gefnogi hyn. Gwnewch hyn a bydd yr adenillion ar eich gwariant hyrwyddo yn eich rhyfeddu chi. 

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.