BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Eiddo DeallusoI yn yr UE a'r AEE

Gwybodaeth i'ch helpu i amddiffyn, rheoli a gorfodi eich hawliau eiddo deallusol (IP) yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Os ydych chi'n ystyried ehangu eich busnes i'r UE/AEE, mae'n hanfodol gwybod sut i reoli a gorfodi eich IP fel hawliau eiddo preifat. Mae hawliau IP yn diriogaethol, ac efallai y bydd angen i chi gofrestru eich hawliau trwy:

  • broses ranbarthol neu ryngwladol sy'n eich galluogi i ffeilio mewn sawl gwlad ar yr un pryd neu;
  • cais i swyddfeydd cenedlaethol sy'n gyfrifol am roi hawliau IP.

Nid yw cofrestru eich IP yn y DU yn darparu amddiffyniad dramor.

Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i bobl sy'n dymuno gwneud busnes yn Ewrop. Mae'n darparu gwybodaeth ac adnoddau ymarferol i'ch helpu i wneud y gorau o'ch IP wrth wneud busnes yn yr UE a'r AEE.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol IP in the EU and EEA - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.