
Mae EmpowerCymru yn ôl ar gyfer 2025, ac mae prif ddigwyddiad Diwydiant Sero Net Cymru yn fwy uchelgeisiol nag erioed. Cynhelir y gynhadledd am ddim ar 10 Mawrth yng Nghaerdydd.
Cewch wybodaeth a gwersi go iawn gan arweinwyr yn y diwydiant a rhanddeiliaid eraill yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ynglŷn â beth mae ‘gwyrdd’ yn ei olygu i Gymru go iawn – gan gynnwys sut gallwn ni ddatblygu ein strategaeth ddiwydiannol ein hunain sy’n ategu cynllun Diwydiant 2035 Llywodraeth y DU, a sut gall diwydiant Cymru gyflawni ei nodau sero net.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Business Wales Events Finder - EmpowerCymru — yn sbarduno taith Cymru tuag at sero net drwy gydweithio a thrafod
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru