BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Entrepreneuriaid Cymru yn allweddol i adferiad economaidd

Mae mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau menter fusnes newydd ac yn manteisio ar y newidiadau economaidd a ffordd o fyw sydd wedi'u gyrru gan bandemig Covid-19, meddai Gweinidog yr Economi Vaughan Gething heddiw wrth i wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang ddechrau.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor ac arweiniad i 3,020 o unigolion sy'n ystyried dechrau busnes ers mis Mawrth 2020, a oedd yn cefnogi creu 1,556 o fusnesau newydd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys 324 o entrepreneuriaid, a oedd gynt yn ddi-waith, a ddechreuodd fusnes gyda chymorth ariannol drwy'r grant rhwystrau Cychwyn Busnes.

I ddathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, bydd Busnes Cymru a phartneriaid mewn Addysg Bellach ac Uwch yn cynnig dros 100 o ddigwyddiadau sy'n targedu pobl ledled Cymru i ddechrau busnes. 

Darllenwch y cyhoeddiad ar Llyw.Cymru.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb dechrau eu busnes eu hunain edrych ar Dechrau a Chynllunio Busnes | Busnes Cymru (llyw.cymru) am syniadau a chyngor.

Ariennir gwasanaeth Busnes Cymru yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.