BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gadael yr UE – Llythyrau CThEM i fusnesau

Mae CThEM wedi anfon llythyrau at fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ac yn masnachu gyda’r UE, neu’r UE a gweddill y byd. Maen nhw’n esbonio pa gamau y dylid eu cymryd er mwyn paratoi ar gyfer newidiadau i drefniadau tollau ar ôl y cyfnod pontio, gan gynnwys:

  • cael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) y DU
  • hwyluso tollau

Ni fydd telerau masnachu gyda’r UE na gweddill y byd yn newid yn ystod y cyfnod pontio. Gall busnesau gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r newidiadau hyn drwy gofrestru i gael diweddariadau e-bost gan CThEM.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho’r llythyrau i lawr, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i Borth Brexit Busnes Cymru i gael cyngor a gwybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer Brexit.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.