BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galw ar Bob Busnes Newydd, Dylunwyr a BBaChau Uchelgeisiol

Os ydych chi'n ddylunydd ffasiwn creadigol, yn fusnes newydd neu'n BBaCh gyda syniad neu gynnyrch ffasiwn cynaliadwy gwych, gall Fashion For Change eich helpu i roi eich busnes ar waith. 

Bydd Fashion for Change yn dewis 25 o brosiectau sy'n bodloni ei feini prawf cymhwyso i elwa ar gymorth ariannol a busnes fel rhan o'i Raglen Cyflymu, dan arweiniad o leiaf un BBaCh, dylunydd, neu fusnes newydd (BBaCh, micro-gwmni, neu weithiwr proffesiynol hunangyflogedig) a phartner trawswladol. 

Mae'r bartneriaeth yn ceisio creu neu ddatblygu cynhyrchion neu wasanaethau arloesol ar gyfer ffasiwn cylchol. Bydd yr alwad yn ystyried yr amcanion penodol canlynol er mwyn cwmpasu'r gadwyn werth gyfan o adnoddau, dylunio, cynhyrchu, manwerthu, defnyddio, hyd at ddiwedd oes y cynnyrch: 

  • datblygu ffibrau newydd ac ailgylchu deunyddiau 
  • dylunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion ffasiwn gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, wedi'u hailgylchu a deunyddiau wedi'u huwchgylchu 
  • gwasanaethau cwsmeriaid manwerthu gan gynnwys trwsio a dychwelyd 
  • modelau busnes newydd ar gyfer rhannu dillad ac ailwerthu 
  • systemau meddalwedd ar gyfer cynhyrchu ffasiwn ar alw 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm 19 Ebrill 2022. 

I wirio eich cymhwysedd, neu i gael gwybod mwy ewch i https://www.fashionforchange.eu/


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.