BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad Agored: Comisiynau newydd Mas ar y Maes gyda Balchder

Ydych chi’n unigolyn, artist neu’n gydweithfa gelfyddydol sy’n huniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru?

Ydych chi’n ymarfer neu’n bwriadu ymarfer eich gwaith creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg?

Oes gennych chi syniad newydd am berfformiad, arddangosfa neu ddigwyddiad newydd a chyffrous?
Os felly, dyma’r cyfle i chi!

Mae Mas ar y Maes gyda Balchder yn chwilio i gomisiynu 5 darn o waith celfyddydol newydd a chyffrous ar gyfer eu harddangos mewn amryw o wyliau yn ystod haf 2023.

Mae rhwydwaith Mas ar y Maes gyda Balchder yn gymuned o sefydliadau a phartneriaid llawrydd, sydd wedi ymrwymo i greu prosiect hirdymor a fydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer pobl greadigol LHDTC+ sy'n gweithio yn yr iaith Gymraeg. 

Mae'r bartneriaeth rhwng Stonewall Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yn dal i dyfu ers llwyddiant rhaglen gyntaf Mas ar y Maes yn 2018 a dros y flwyddyn ddiwethaf, mae partneriaethau strategol newydd wedi'u sefydlu rhwng Mas ar y Maes a sefydliadau a gweithwyr llawrydd eraill sy'n rhannu'r un amcanion, sef cynyddu gwaith a wnaed gan gynulleidfaoedd LHDTC+ drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei roi i berson o liw / cefndir ethnig lleiafrifol / mwyafrif bydol, ac o leiaf un comisiwn yn cael ei roi i brosiect sy’n rhoi ffocws a’r ymgysylltu gyda’r gymuned a grwpiau cymunedol.

Dyddiad cau: 9am, 20 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Galwad Agored: Comisiynau newydd Mas ar y Maes gyda Balchder | Eisteddfod Genedlaethol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.