BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad am dystiolaeth: Cyfundrefn Dollau Annibynnol

Mae Llywodraeth y DU yn gofyn i fusnesau, masnachwyr a’r cyhoedd roi eu barn ar sut mae’r system dollau yn gweithio a pha welliannau yr hoffent eu gweld. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) a Thrysorlys EM wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth er mwyn i randdeiliaid allu rhoi adborth ar feysydd allweddol.

Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn gwahodd safbwyntiau ymatebwyr ar 3 maes:

1.    Y sector cyfryngwyr tollau.
2.    Y Broses Datganiadau Tollau Syml (SCDP).
3.    Y cyfleuster Tramwy. Bydd y dystiolaeth hon yn cefnogi newidiadau yn y dyfodol i bolisi neu brosesau er mwyn ei gwneud yn haws i fasnachwyr lywio system dollau’r DU.

Bydd CThEM a Thrysorlys EM yn cynnal gweminar ar 2 Mawrth 2022 am 3.30pm i gyflwyno’r Alwad am Dystiolaeth, bydd yn rhoi arweiniad ynghylch sut i ymateb, ac yn ateb eich cwestiynau. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 2 Mai 2022 am 11:45pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Galwad am Dystiolaeth: Cyfundrefn Tollau Annibynnol - GOV.UK (www.gov.uk)
 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.