Mae General Export Facility (GEF) yn darparu gwarantau rhannol i fanciau er mwyn helpu allforwyr o’r DU sicrhau mynediad at gyfleusterau cyllid masnach, gyda thelerau ad-dalu o hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf ar gyfer:
- cyfleusterau arian, fel benthyciadau masnach
- cyfleusterau ymrwymiad wrth gefn, fel llinellau bond a llythyron credyd
Mae GEF ar gael i gefnogi cyfleusterau gwerth hyd at ryw £25 miliwn. Yn achos cyfleusterau sy’n werth dros £25 miliwn, cysylltwch â’ch Rheolwr Cyllid Allforio lleol oherwydd gall un o gynlluniau eraill UKEF fod yn addas.
Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol: General Export Facility - GOV.UK
Ydych chi’n dechrau neu’n tyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gymorth, arweiniad a chyngor: Busnes Cymru – Allforio (llyw.cymru)