BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofod yng Nghymru – cyfleoedd i fusnesau

Beth bynnag fo’ch busnes, gallai'r sector Gofod sy'n prysur dyfu a’r economi a alluogir gan y gofod gynnig cyfleoedd newydd i chi.

Mae'r farchnad economi gofod byd-eang yn werth rhwng £155 biliwn a £190 biliwn, ac amcangyfrifir y bydd yn tyfu i £400 biliwn erbyn 2030. Mae sector gofod y DU wedi treblu o ran maint mewn termau real ers y flwyddyn 2000 gyda throsiant o £14.8 biliwn. Ar hyn o bryd, mae gan y DU 5.1% o'r farchnad fyd-eang ac mae ganddi uchelgais i gyrraedd 10%.

Mae Asiantaeth Ofod y DU wedi rhoi grant i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ofod genedlaethol newydd i Gymru. Bydd Awyrofod Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni'r prosiect hwn.

Un o'r nodau allweddol yw helpu i hyrwyddo eich busnes waeth a ydych yn rhan o gadwyn gyflenwi'r diwydiant ei hun neu'n defnyddio data a galluogrwydd y gofod i'ch helpu i ddarparu eich cynnyrch a'ch gwasanaethau. Gall yr olaf gynnwys unrhyw sector fwy neu lai, gan gynnwys:

  • cludiant
  • manwerthu
  • yswiriant
  • meddygol
  • amaethyddiaeth
  • lletygarwch
  • twristiaeth

Hoffai Awyrofod Cymru glywed gennych os ydych am gyfrannu at yr economi a alluogir gan y Gofod. Llenwch yr arolwg atodedig erbyn dydd Llun 11 Ionawr 2021 a'i e-bostio i rachael@aerospacewales.aero gan gopïo lucy@ellisonmarketing.co.uk

Llenwch yr holiadur gorau fedrwch chi - byddwn yn cysylltu â chi am ragor o fanylion os oes raid. Peidiwch â phoeni os na allwch chi ateb pob cwestiwn. Llenwch cymaint ag y gallwch a defnyddiwch y bocsys i ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol yn eich barn chi.

Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn creu matrics galluogrwydd gweithgarwch y Gofod yng Nghymru a'i ddefnyddio ar gyfer deunyddiau hyrwyddo, a fydd ar gael yn electronig ac ar wefan Awyrofod Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.