Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Mawrth 22 Medi 2020 i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn ardaloedd y pedwar awdurdod lleol hyn.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd:
- ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
- dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o aelwyd estynedig
- bydd rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm
- bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do – fel yng ngweddill Cymru
O 6pm ddydd Mawrth 22 Medi ymlaen, bydd y gofyniad i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm yn cael ei estyn i fwrdeistref Caerffili yn ogystal.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Bwrwch olwg ar dudalennau COVID-19 – Cymorth i Fusnesau Busnes Cymru i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.