Gwnewch gais am Grant Arbed Ynni o hyd at £25,000 i helpu eich clwb chwaraeon i arbed arian a dod yn fwy ynni-effeithlon.
Mae’r Grant Arbed Ynni yn cynnig cyfle unigryw i glybiau wneud gwelliannau arbed ynni ac arbed arian. Nid yn unig y bydd clybiau’n elwa ar filiau cyfleustodau is, ond byddant hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd hefyd.
Bydd y grantiau yn helpu clybiau i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol fel y gallant barhau i gynnig gweithgareddau fforddiadwy i'w cymunedau.
Mae hwn yn gam sylweddol tuag at greu dyfodol cynaliadwy i glybiau chwaraeon yng Nghymru.
Felly, os ydych chi'n glwb sydd eisiau arbed arian a hefyd cael effaith gadarnhaol ar y blaned, mae'r grant yma'n gyfle perffaith i chi!
Mae'r grant ar gyfer clybiau chwaraeon nid-er-elw a grwpiau cymunedol sydd am wneud gwelliannau arbed ynni. Bydd y gronfa'n cefnogi:
- paneli solar
- deunyddiau inswleiddio / adeiladu
- goleuadau (ac eithrio llifoleuadau chwarae / hyfforddi)
- gwell systemau gwresogi a dŵr poeth
- ffynonellau dŵr cynaliadwy
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 28 Mehefin 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Grant Arbed Ynni | Chwaraeon Cymru | Chwaraeon Cymru
Beth am gofrestru ar gyfer ‘Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.