Mae'r Green Growth Awards yn gystadleuaeth ledled y wlad, a gynhelir gan Small Business Britain mewn partneriaeth â BT, sy'n dathlu busnesau bach sydd wedi defnyddio cynaliadwyedd yn llwyddiannus i arloesi a sbarduno twf busnes.
Dyma eich cyfle i ddangos sut mae arferion cynaliadwy wedi cael effaith gadarnhaol ar eich llinell waelod, boed hynny drwy arbedion cost, lleihau gwastraff ac ailgylchu, ymgysylltu â chwsmeriaid, neu atebion creadigol.
Bydd dau fusnes buddugol yn derbyn £5000 yr un i’w ailfuddsoddi yng nghynaliadwyedd eu busnes.
Cyflwynwch eich cais erbyn 31 Ionawr 2025 a rhannwch sut mae cynaliadwyedd wedi helpu eich busnes i dyfu.
Daw'r gystadleuaeth i ben gyda digwyddiad arbennig ar 11 Mawrth 2025, a gynhelir gan BT, am ddiwrnod o ysbrydoliaeth, rhwydweithio, dysgu, a chyhoeddi'r enillwyr.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Small Business Britain | Green Growth Awards
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru