BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

'Gwaith Teg yn allweddol i sector manwerthu cryfach, mwy cynaliadwy' – Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Sarah Murphy - The Minister for Social Partnerships

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o ran sicrhau bod y rhai a gyflogir yn y sector manwerthu yn cael eu talu a'u trin yn deg ac yn briodol.

Wrth nodi'r cynnydd a welwyd yn ystod blwyddyn gyntaf Cynllun Gweithredu Manwerthu Llywodraeth Cymru, amlinellodd y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol y camau sy'n cael eu cymryd, o alluogi gweithredu cyflog byw go iawn yn ehangach i gymorth ariannol parhaus gyda biliau ardrethi annomestig a diogelu at y dyfodol. Ymrwymodd hefyd i weithio gyda chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i fynd i'r afael â'r cam-drin corfforol a llafar sy'n parhau'n rhy gyffredin yn y sector.

Dywedodd y Gweinidog Partneriaethau Cymdeithasol, Sarah Murphy:

Y sector manwerthu yw un o gyflogwyr mwyaf y sector preifat yng Nghymru, gan gynnig gyrfaoedd amrywiol a gwerth chweil. Dyma pam rydym wedi canolbwyntio ar elfennau "pobl" ein Cynllun Gweithredu Manwerthu dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol sgiliau, pobl ifanc ac economi bob dydd y Genhadaeth Economaidd.

Mae bargen well i weithwyr yn un o'r allweddi i ddatgloi'r drws i ddyfodol cryfach, gwell, tecach a mwy cynaliadwy i'r sector manwerthu. Mae ein hegwyddorion Gwaith Teg yn ganolog i hyn a byddant yn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n wynebu'r sector.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld cyflogau cyfartalog ar draws y sector manwerthu yn gwella o gymharu â chyfartaledd Cymru, sy'n dda i'w glywed, er ein bod yn cydnabod bod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod gan y rhai sy'n gweithio yn y sector manwerthu fynediad at waith teg, a diogel.

I ddarllen y datganiad llawn, dewiswch y ddoleni ganlynol:

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru gwerth £20 miliwn yn helpu hyd at 2,500 o fusnesau i fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i 12pm, 13 Mehefin 2024: Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.