BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG yn gam mawr ymlaen i gael cymorth iechyd meddwl brys

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi (20 Mehefin 2023) fod llinell ffôn genedlaethol newydd yn cael ei lansio heddiw ledled Cymru ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl brys.

Mae gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bob oedran. Gall pobl ddefnyddio'r rhif hwn os oes ganddynt bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder am rywun maen nhw'n ei adnabod.

Trwy roi mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, mae’n gallu helpu i gefnogi pobl i reoli argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gall fod yn ddewis gwahanol yn lle mynd i adran frys neu ffonio'r heddlu.

Mae modd cael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio GIG 111 a dewis rhif 2. Bydd galwyr yn cael eu trosglwyddo i aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Gwasanaeth '111 pwyso 2' y GIG yn gam mawr ymlaen i gael cymorth iechyd meddwl brys | LLYW.CYMRU

P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr.  Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.