BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwastraff pecynnu: paratoi am gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr

Mae'r ffordd y mae'n rhaid i sefydliadau'r DU, sy'n gyfrifol am becynnu, gyflawni eu cyfrifoldebau ailgylchu yn newid. 

Os yw'r Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) newydd ar gyfer pecynnu yn effeithio arnoch chi (gan gynnwys diwygiadau i'r system Nodyn Ailgylchu Pecynnu (PRN), mae angen i chi ddechrau casglu'r data pecynnu cywir o 1 Ionawr 2023. 

Ni fydd yn orfodol casglu eich data pecynnu tan fis Mawrth 2023, a bydd angen i chi ddechrau rhoi gwybod am y data hwn o fis Gorffennaf 2023.  

Bydd y rheoliadau hyn yn berthnasol i bob sefydliad yn y DU sy'n trin a chyflenwi pecynnu i fusnesau a defnyddwyr. Gall hyn hefyd gynnwys cynhyrchion sy'n cael eu mewnforio o'r tu allan i'r DU a marchnadoedd ar-lein. 

Mae canllawiau newydd wedi cael eu cyhoeddi, 'how to collect your packaging data for EPR'. Maen nhw ar gyfer sefydliadau'r DU fydd yn cael eu heffeithio gan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am becynnu. 

Mae'r canllaw presennol hefyd wedi cael ei ddiweddaru, Gwastraff deunydd pecynnu: paratoi ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr 

Gallwch wylio gweminarau ar yr hyn sy'n ofynnol i fynd â'r diwydiant drwy ofynion Cyfrifoldebau Estynedig Cynhyrchwyr o 1 Ionawr 2023. I wylio, cliciwch ar y ddolen ganlynol Extended Producer Responsibilities (EPR) - January 2023 Requirements Webinar - YouTube

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwastraff deunydd pacio: paratoi ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr - GOV.UK (www.gov.uk)
 

 

 

 

 

 

For further information please select the following link Packaging waste: prepare for extended producer responsibility - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.