BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i gefnogi allforion Cymru

Wrth annerch cynhadledd flynyddol "Archwilio Allforio Cymru", bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn cyhoeddi raglen cymorth allforio lawn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2024 a buddsoddiad o £4 miliwn i'w darparu.

Mae'r Cynllun Gweithredu Allforio yn rhan allweddol o'r Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Cynllun yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o raglenni allforio, gan weithio gyda'r 'eco-system allforio' ehangach, i gefnogi busnesau ar bob cam o'u taith allforio, o:

  • Ysbrydoli busnesau i allforio
  • Creu gallu i allforio
  • Dod o hyd i gwsmeriaid tramor
  • Chael mynediad at farchnadoedd tramor

Mae rhaglen allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2024 yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau masnach tramor, wedi'u creu'n bennaf o amgylch sioeau masnach rhyngwladol allweddol sy'n cyd-fynd â'r sectorau allforio sy’n flaenoriaeth i Gymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.