Mae'r Ganolfan Technoleg Amgen (CAT) ger Machynlleth yn cynnig cyrsiau Ardystiedig Llythrennedd Carbon wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer busnesau, grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, mentrau cymdeithasol a sefydliadau eraill ym Mhowys.
Hyd at ddiwedd 2024, bydd hyfforddwyr Prydain Di-garbon CAT yn croesawu grwpiau o bob rhan o Bowys i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi hon a fydd yn cefnogi busnesau a grwpiau eraill i ddod yn fwy ymwybodol o faterion sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac i greu diwylliant carbon isel yn eu prosiectau a'u gweithleoedd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i Hyfforddiant Llythrennedd Carbon Am Ddim ym Mhowys - Centre for Alternative Technology (cat.org.uk)
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)