BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Canllaw Ymgysylltu'n Gynnar Â’r Farchnad Ar Gyfer Caffael Cynaliadwy

Mae ein gwaith i greu economi gylchol yn hanfodol er mwyn cyflawni Cymru sero net erbyn 2050. Golyga hyn leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau cyhyd â phosibl, a chreu modelau busnes newydd mwy cynaliadwy. 

Gall ein Canllaw Ymgysylltu â’r Farchnad Ar Gaffael Cynaliadwy gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus i symud oddi wrth y model caffael traddodiadol ‘cymryd-gwneud-gwastraffu’ a chwilio yn hytrach am ffyrdd y gallwn gadw nwyddau’n ddefnyddiol am amser hwy. Bydd ymgysylltu â’r farchnad yn hollbwysig wrth weithio gyda chyflenwyr y sector cyhoeddus i gyflawni sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. 

Fel prynwr, mae eich gallu chi i ddiffinio a chyrchu nwyddau a gwasanaethau’n llwyddiannus mewn modd cylchol a chynaliadwy yn dibynnu ar eich ymwybyddiaeth a’ch gwybodaeth am y sylfaen cyflenwyr, eu galluedd, eu capasiti a’r technolegau sydd ar gael. Yn ogystal â'r prif ganllaw, mae rhagor o fanylion yn ein canllawiau ar gategoriau penodol.

Ymunwch â’n gweminar addysgiadol ar 6 Rhagfyr 2022 lle byddwn yn rhoi trosolwg o’n canllawiau newydd i brynwyr cyhoeddus ar ymgysylltu â’r farchnad.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.