BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar - cyfraith cyflogaeth, mewnfudo a busnes

Mae Aerospace Wales wedi ymuno â Hugh James, ar gyfer gweminar cyfraith cyflogaeth, sy'n trin a thrafod yr ystyriaethau allweddol i gyflogwyr mewn byd ôl-Brexit ac ôl-pandemig.

Yn y weminar bydd Rhiannon Dale ac Eleanor Bamber o'r tîm Gwasanaethau Cyflogaeth ac Adnoddau Dynol yn ystyried effaith Brexit ar statws mewnfudo gwladolion yr UE, a beth fydd angen i gyflogwyr ei wneud os ydyn nhw am gyflogi gweithwyr yr UE wrth symud ymlaen.

Byddant yn cwmpasu llwybrau mewnfudo gan gynnwys drwy 'Skilled Worker / Intra Company Transfers (ICT)' a'r goblygiadau cyfraith cyflogaeth sy'n gysylltiedig â digwyddiadau "yn bersonol" neu lle na ellir gwneud gwaith gartref.

Hefyd, bydd y sesiwn yn ystyried y gofynion newydd ar gyfer gwiriadau hawl i weithio, yn enwedig gwirio hawl gwladolion yr AEE ac aelodau o'u teuluoedd i weithio, yn dilyn cyfnod gras ôl-bontio Brexit a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021.

Cynhelir y weminar ddydd Mawrth 27 Gorffennaf 2021 rhwng 10:30am a 12:00pm.

I gofrestru, llenwch y ffurflen gofrestru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.