BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Trawsnewid Cymru Trwy Fentrau Cymdeithasol: Cynllun y Weledigaeth a'r Camau Gweithredu

Ar 15 Gorffennaf 2020, bydd gweledigaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyfer y sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn cael ei lansio. Yn dwyn y teitl Trawsnewid Cymru Trwy Fenter Gymdeithasol, mae'r ddogfen wedi'i chyd-lunio gan fentrau cymdeithasol, asiantaethau cymorth menter gymdeithasol yng Nghymru, ac mae ganddi gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Y nod yw darparu gweledigaeth glir o botensial mentrau cymdeithasol i gyfrannu at fywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru wrth iddynt ailadeiladu yn sgil effeithiau'r epidemig COVID-19, yn ogystal â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Daw'r weledigaeth law yn llaw â chynllun gweithredu blaengar, a fydd, yn y byrdymor, yn cefnogi'r sector i adfer, ond a fydd hefyd yn symud y sector yn ei flaen gan sicrhau ei fod yn cyflawni ei lawn botensial.

Bydd y ddogfen lawn ar gael ar https://cymru.coop  ddydd Mercher 15 Gorffennaf.

Cynhelir y gweminar ar 15 Gorffennaf 2020 rhwng 2pm a 3pm i archebu lle, ewch i wefan Eventbrite.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.