Rhwydwaith cydweithredol o arbenigedd amlddisgyblaethol ar draws y byd academaidd, diwydiant a llywodraeth yw SWITCH, sy’n dod at ei gilydd i gyflymu’r broses o drosglwyddo i Sero Net, yn Ne Cymru a thu hwnt.
Mae’r gyfres o weminarau Sgiliau SWITCH-On yn cynnig llwybr deniadol i daith Sero Net Cymru, gan roi gwybodaeth hanfodol ac offer ymarferol i chi.
Mae pob sesiwn yn cyflwyno agwedd allweddol ar weithredu ar newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Mae’r dyddiadau isod:
- Cyflwyniad i'r Economi Gylchol – 20 Tachwedd 2024
- Technolegau Ynni Adnewyddadwy – 27 Tachwedd 2024
- Cyflwyniad i Dechnoleg Ffwrnais Arc Drydan (EAF) – 4 Rhagfyr 2024
- Adeiladau Carbon Isel Actif – 11 Rhagfyr 2024
- Yr Economi Hydrogen – 16 Rhagfyr 2024
Wedi'u cyflwyno gan ddarlithwyr arbenigol, mae'r gweminarau hyn yn cynnig cipolwg gwerthfawr ac yn gweithredu fel pwynt mynediad rhagorol i'n cyrsiau mwy manwl ac achrededig. P'un ai ydych chi'n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, yn fyfyriwr neu'n frwd dros gynaliadwyedd, mae ein gweminarau wedi'u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth, gan gefnogi symudiad Cymru tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: GWEMINARAU – SWITCH
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)