Gadawodd y DU yr UE ar 31 Rhagfyr 2020. Daeth y rheolau sy'n llywodraethu'r berthynas newydd rhwng yr UE a'r DU i rym ar 1 Ionawr 2021.
Mae newidiadau i'r ffordd y mae busnesau'r DU yn masnachu gyda'r UE a allai effeithio ar eich busnes.
Mae gan HMRC gweminarau fyw sy'n rhoi trosolwg i fusnesau yn y DU sy'n ymwneud â symud nwyddau rhwng yr UE a'r DU. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wybod i’ch alluogi i fewnforio ac allforio.
Cynigir y gweminarau sawl gwaith. Dewiswch ddyddiad ac amser sy'n gweithio orau i chi.
- Datganiadau tollau mewnforio
- Allforio: camau sy’n rhaid i chi eu cymryd nawr
- Mewnforio: ‘staged controls’ a sut i baratoi i’w defnyddio
- Pontio’r DU: cyrifoldebau masnachwyr
I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi'ch busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio’r UE Busnes Cymru.