Economi werdd, swyddi gwyrdd, a sgiliau gwyrdd! Beth yw’r gwahaniaeth a beth maen nhw’n ei olygu yn ymarferol?
‘Sgiliau gwyrdd’ yw’r cymwyseddau sydd eu hangen i fod yn fwy cydnerth a gallu addasu i fyd sy’n ffynnu’n amgylcheddol ac sy’n gymdeithasol gyfiawn heddiw ac i’r dyfodol.
Mae gan Cynnal Cymru nifer o weminarau ar-lein drwy gydol mis Mai i'ch helpu chi a'ch busnes i ddysgu mwy am Sgiliau Gwyrdd, gan gynnwys:
- Sgiliau gwyrdd a'ch gweithle: Beth ydyn ni'n ei olygu wrth sgiliau gwyrdd a pham mae eu hangen?
- Sgiliau gwyrdd a'ch gweithle: Recriwtio gwyrdd a disgrifiadau swydd cynhwysol
- Sgiliau gwyrdd a'ch gweithle: Gwneud pob swydd yn fwy gwyrdd
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)