Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) arweiniad ar sut i reoli’r risgiau i wirfoddolwyr.
Mae’r arweiniad yn esbonio sut mae cyfraith iechyd a diogelwch yn berthnasol i wirfoddoli.
Mae gwybodaeth hefyd am:
- pryd i roi gwybod am ddigwyddiadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr
- cynnwys gwirfoddolwyr yn eich asesiadau risg
Mae’r tudalennau’n darparu rhywfaint o gyngor penodol i wirfoddolwyr sy’n rheoli eiddo annomestig fel neuaddau pentref a chymuned, ynghyd ag arweiniad ar adwerthu elusennol a chodi arian at elusennau.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Gwirfoddoli: Sut i reoli’r risgiau – HSE
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.
Mae yna sawl ffordd y gall busnes gyfrannu at eu hardal leol ac ar yr un pryd gadw eu cwsmeriaid yn hapus. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)