BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwiriwch eich bod yn talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i'ch gweithwyr

Cardiff shopping centre

Mae CThEF yn ysgrifennu at dros 5,000 o gyflogwyr yng Nghaerdydd i’w hatgoffa am eu dyletswyddau o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac i gynnig cymorth iddynt. Daw hyn ar ôl adennill £243,000 o ôl-daliadau cyflog i weithwyr yng Nghaerdydd.

Weithiau, mae cyflogwyr yn methu cyfrif am ddidyniadau neu daliadau am eitemau sy’n gysylltiedig â swydd, fel iwnifform, wrth gyfrifo cyflogau – gall hyn fynd â gweithwyr islaw’r isafswm cyflog. Mae camgymeriadau eraill yn cynnwys peidio â thalu gweithwyr am yr holl amser y maent wedi gweithio, neu amser hyfforddiant, a pheidio â thalu prentisiaid yn gywir.

Gallai busnesau sy’n methu cydymffurfio â rheolau’r isafswm cyflog wynebu cosbau gwerth hyd at 200% o’u hôl-daliadau – yn ogystal â gorfod talu’r ôl-daliadau sy’n ddyledus a gall cyflogwyr gael eu henwi’n gyhoeddus hefyd.

Mae CThEF hefyd yn cynnig galwad gymorth, yn rhad ac am ddim i ryw 1,400 o gyflogwyr yng Nghaerdydd, gydag un o’u harbenigwyr Isafswm Cyflog Cenedlaethol / y Cyflog Byw Cenedlaethol. 

Gall cyflogwyr gael at gymorth unrhyw bryd i sicrhau eu bod yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn gywir:

Mae rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys pwy sy’n gymwys, ar gael ar GOV.UK fan hyn:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.