BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwiriwch pa gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo

person trying to keep warm by a radiator looking at a utility bill

Mae pawb angen help a chefnogaeth o bryd i’w gilydd. Gyda chostau byw yn cynyddu, mae llawer o bobl yng Nghymru angen yr help hwnnw nawr.

Mae cymorth ar gael i chi a allai eich helpu gyda rhywfaint o’ch costau byw.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gymorth sydd ar gael i chi, gall Advicelink Cymru eich helpu i ddarganfod beth sydd ar gael a sut i hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi.

Gall Advicelink Cymru eich helpu gyda’r canlynol:

  • gwneud cais am fudd-daliadau lles, fel Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gofalwr a Chredyd Pensiwn
  • cael cymorth gan Lywodraeth Cymru

I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.