Bydd Cronfa’r Dyfodol yn darparu benthyciadau gan y llywodraeth i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn y DU, a fydd yn amrywio o £125,000 i £5 miliwn, yn amodol ar gyllid cyfatebol o leiaf gan fuddsoddwyr preifat.
Gallai’r benthyciadau trosi hyn fod yn opsiwn addas i fusnesau sy’n dibynnu ar fuddsoddiadau ecwiti ac sy’n methu cael mynediad at y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws.
Bydd y gronfa yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Banc Busnes Prydain.
Byddwch yn gymwys os yw’ch busnes:
- wedi’i leoli yn y DU
- yn gallu denu cyllid cyfatebol cyfwerth gan fuddsoddwyr preifat trydydd parti a sefydliadau
- wedi codi o leiaf £250,000 mewn buddsoddiad ecwiti gan fuddsoddwyr trydydd parti yn y 5 mlynedd diwethaf.
Bydd y gronfa yn agored i geisiadau ar 20 Mai 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae canllawiau manylach ar gael ar wefan British Business Bank.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.