BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwneud eich busnes yn gynaliadwy

Mae gan y British Business Bank gyfoeth o wybodaeth a chanllawiau ar sut i greu busnes cynaliadwy a pharatoi ar gyfer twf gwyrdd, gweithredu gyda'u canllawiau busnes gwyrdd, chwalu jargon ac esbonwyr defnyddiol.

Darganfyddwch beth mae Sero Net yn ei olygu mewn gwirionedd gyda'u Green Decoder. Mae’r canllaw ar-lein wedi cael ei greu ar y cyd ag Ysgol Fusnes Nottingham, Prifysgol Nottingham Trent i helpu busnesau llai i ddehongli'r derminoleg sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio.

Gallwch hefyd ymrwymo i'r UK Business Climate Hub a chymryd camau i fod yn wyrddach, gan arbed arian i'ch busnes ac achub y blaned hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Sustainability - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)

Cofrestrwch ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru sy'n helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.