BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Gwneud ein gweithleoedd yng Nghymru’n fannau gwell a thecach

A COVID-19 yn gefndir iddo, cyhoeddwyd ymgyrch newydd gan Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, a hynny er mwyn cryfhau dealltwriaeth pobl o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Ni fu erioed mor bwysig i weithwyr a chyflogwyr fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u hawliau yn y gweithle.

Mae’r llywodraeth hon wedi ymuno â’n partneriaid cymdeithasol, sef TUC Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Siambr Cymru a phartneriaid allweddol eraill, ACAS a Cyngor ar Bopeth, i lansio ymgyrch a fydd yn codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth am y cymorth arbenigol sydd ar gael i weithwyr a busnesau trwy Gymru.

Er bod y pandemig wedi tynnu sylw at yr angen i weithredu, nid yw hon yn her newydd – ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod y gyfraith yn gallu bod yn dechnegol iawn, yn gymhleth ac yn anodd i wneud pen na chynffon ohoni. Yn bersonol, rwy’n benderfynol o wneud ein gweithleoedd yn decach, yn fwy diogel ac yn well i bawb – treuliais y rhan orau o ddegawd yn gweithio i undeb llafur ac rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall gwybod am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau wneud i rhywun, nid yn unig mewn gweithle ond mewn bywyd hefyd.

Mae cyngor a chefnogaeth arbenigol ar gael i helpu gweithwyr a chyflogwyr i lywio’r gyfraith, a dyna lle mae ein partneriaid yn bwysig iawn. Rhyngddynt, mae ganddynt yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gynghori, galluogi a chodi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth ledled Cymru.

Fel rhywun sydd â chefndir yn y mudiad undebau llafur, rwy’n teimlo’n angerddol y gall cynrychiolaeth a llais cyfunol wneud gwahaniaeth go iawn. Rwy’n gwybod o brofiad mai’r ffordd orau i weithwyr ddeall a sicrhau eu hawliau yn y gwaith yw drwy ymuno ag undeb llafur. Yn yr un modd, mae sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau yno i gefnogi cyflogwyr, a’u helpu i gael gafael ar y cyngor, y gynrychiolaeth a'r dysgu gan gyfoedion sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau. 

Rydym yn annog pob gweithiwr a chyflogwr i edrych ar eu hopsiynau ac i dreulio amser yn dysgu mwy am eu cyfrifoldebau a’u hawliau.

O gydweithio gallwn wneud y byd gwaith yng Nghymru’n fwy diogel, yn decach ac yn well i bob un ohonom ni."

I ddysgu mwy am y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael, ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/hawliau-chyfrifoldebau-yn-y-gweithle


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.