Dathlu gwaith rhagorol grwpiau gwirfoddol lleol ar draws y DU.
Yn dilyn esgyniad Brenin Siarl III, bydd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol bellach yn cael ei galw’n Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS).
Bob dydd, mae miliynau o bobl ledled y DU yn gwneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli. Bob blwyddyn, dethlir enghreifftiau rhagorol o'r gwaith hwn trwy'r KAVS.
Crëwyd y Wobr yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II ac roedd yn cael ei hadnabod fel Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), ac mae wedi bod yn amlygu gwaith gwych grwpiau gwirfoddol o bob rhan o'r DU ers blynyddoedd lawer.
Gan fod gyfwerth ag MBE, KAVS yw'r Wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU, ac fe'u dyfernir am oes.
Y dyddiad cau i wneud cais yw INSERT DATE.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol The King's Award for Voluntary Service - official website (dcms.gov.uk)
Mae busnesau cymdeithasol yn elfen bwysig a deinamig o economi Cymru. Mae busnesau cymdeithasol yn cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol a busnesau y mae'r gweithwyr yn berchen arnynt.
Maen nhw'n darparu swyddi da, yn nes at adref, lle mae cymunedau eu hangen. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithio'n ddiwyd i fynd i'r afael â materion lleol drwy fasnachu ac yna ailfuddsoddi'r incwm y maen nhw'n ei ennill yn yr pethau sy'n bwysig iddyn nhw. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Busnes Cymdeithasol Cymru (llyw.cymru)