Gall arian y Loteri Genedlaethol eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Mae'r gwobrau’n cynnig cyllid o £300 i £10,000 i gefnogi beth sy'n bwysig i bobl a chymunedau, gan gynnwys:
- effaith costau byw cynyddol
- adfer, ailadeiladu a thyfu yn dilyn pandemig Covid-19
Yn 2023, gallant eich helpu i ddathlu'r digwyddiadau cenedlaethol sy'n bwysig i'ch cymuned gan gynnwys Coroni Ei Fawrhydi'r Brenin, yr Eurovision Song Contest yn Lerpwl, a dathlu 75 mlwyddiant Windrush.
Os ydych chi'n sefydliad gwirfoddol neu gymunedol, gwnewch gais heddiw!
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yn barhaus.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk)
Os ydych chi'n ystyried dechrau neu weithredu busnes cymdeithasol, ewch i dudalennau Busnes Cymdeithasol Busnes Cymru i gael cyngor.