BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Gwnaed yn y DU, Gwerthu i'r Byd 2023

Bellach, gellir gwneud cais ar gyfer Gwobrau Gwnaed yn y DU, Gwerthu i'r Byd, sy’n cael eu cynnal gan yr Adran dros Fasnach Ryngwladol (DIT). 

Bydd y gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant masnachu byd-eang busnesau bach o bob rhan o'r DU ac mae modd gwneud cais yn rhad ac am ddim.

Bydd y cynllun yn gwobrwyo busnesau mewn saith sector:

  • Amaeth, bwyd a diod  
  • Nwyddau defnyddwyr
  • Diwydiannau creadigol  
  • Digidol  
  • Addysg  
  • Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol  
  • Gweithgynhyrchu 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Iau, 23 Chwefror 2023 am 23:59, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Ebrill 2023.  

I wneud cais, y cyfan sydd angen i fusnesau ei wneud yw llenwi ffurflen gyflwyno fer ar wefan DIT trwy glicio ar y ddolen ganlynol Made in the UK, Sold to the World Awards (great.gov.uk)

Dechrau neu dyfu eich busnes allforio? Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ystod o gymorth, canllawiau a chyngor. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HomepageHafan | Drupal (gov.wales)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.