BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Llywodraethu Elusennau 2024

hands touching

Mae’r Gwobrau Llywodraethu Elusennau yn fenter nid-er-elw a grëwyd i ddathlu llywodraethu ac ymddiriedolaeth ragorol mewn elusennau ledled y Deyrnas Unedig (DU), gan alluogi sefydliadau nid-er-elw mawr a bach i ysbrydoli a dysgu oddi wrth ei gilydd. Nid oes tâl am wneud cais ar gyfer y gwobrau a cheir seremoni wobrwyo am ddim.

Mae’r gwobrau’n agored i unrhyw elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU.

Categorïau’r Gwobrau

  • Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ran Bwrdd
  • Trawsnewid â Thechnoleg Ddigidol
  • O Her Systemig i Newid Ystyrlon
  • Pobl mewn Llywodraethu (gwobr newydd ar gyfer 2024!)
  • Gwella Effaith mewn Elusennau Bach – ceir un categori ar gyfer 0-3 o aelodau staff cyflogedig, ac un categori ar gyfer elusennau â 4-30 o aelodau staff cyflogedig

Bydd enillydd pob categori yn derbyn grant anghyfyngedig o £5,000 fel gwobr. Bydd goreuon y gweddill yn derbyn gwobrau ariannol hefyd (sef £1,000 yr un), a bydd pob elusen ar y rhestr fer yn cael cynnig aelodaeth Cymdeithas y Cadeiryddion am ddim am flwyddyn ar gyfer ei chadeirydd neu ei his-gadeirydd, yn ogystal â lle cyflenwol ar Raglen Arweinyddiaeth Ymddiriedolwyr Cause4 ar gyfer ymddiriedolwr newydd neu ddibrofiad.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: The Charity Governance Awards 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.