Gwyrddgalchu yw'r arfer lle mae cwmnïau'n honni eu bod yn gwneud mwy dros yr amgylchedd nag ydyn nhw mewn gwirionedd.
Mae gwyrddgalchu wedi cynyddu wrth i’r canlynol ddigwydd:
- ymrwymiadau hinsawdd cwmnïau gynyddu
- defnyddwyr yn ceisio prynu cynhyrchion mwy cynaliadwy yn gynyddol
- cwmnïau'n cael eu cymell i wneud cynhyrchion yn fwy deniadol i ddefnyddwyr
- gweithwyr yn cael eu denu i weithio i gwmnïau sydd â rhinweddau cynaliadwyedd cryf
Mae gwneud honiadau amgylcheddol ffug yn amharu ar gynnydd ac effaith datgarboneiddio. Os na eir i'r afael â gwyrddgalchu, bydd yn tanseilio ymdrechion arweinwyr dilys, gan greu dryswch, sinigiaeth, a methiant i gyflawni gweithrediadau brys ar newid yn yr hinsawdd. Mae'n broblem ar y cyd sy'n gofyn am weithredu ar y cyd.
Gwyliwch weminar yr Ymddiriedolaeth Garbon ar sut i osgoi gwyrddgalchu a darllen eu prif argymhellion ar sut i wrthsefyll gwyrddgalchu trwy gyfathrebu tryloyw ar gyfer eich busnes.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Briefing: how to counter greenwashing with transparent communications | The Carbon Trust
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)