Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnal y trydydd Hac Iaith Gymraeg. Mae mynediad at fuddsoddiad o gronfa o £24,000 ar gael i’r syniadau buddugol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloeswyr a rheini sy’n frwdfrydig am dechnoleg gyfrannu at y defnydd o’r Gymraeg, drwy dreialu datrysiadau digidol sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn amgylcheddau digidol. I gefnogi ac annog dysgwyr, a chaniatáu i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Sut bydd o’n gweithio?
Deallir efallai na fydd hyn yn ddigon i wneud cynnyrch newydd sy’n gweithredu’n llawn, ond gallai fod yn ddigon i:
- Ehangu gwasanaeth presennol
- Ychwanegu offer at wasanaethau presennol
- Creu prawf o gysyniad
- Ariannu ymchwil a datblygu
- Creu peilot
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar yr 22ain o Chwefror 2024, lle byddwch yn darganfod mwy am yr Hac a’r disgwyliadau. Mae’n syniad da ymuno â’r digwyddiad ar y 22ain hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi llenwi’r ffurflen google. Efallai y byddwch chi’n darganfod gwybodaeth hanfodol!
Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno cais, byddwch chi’n dod i wybod os ydych chi drwodd i’r rownd pitsio! Mae hyn yn digwydd ar 1 Fawrth 2024 a byddwch yn cyflwyno’n fyw i gynulleidfa a phanel o feirniaid. Bydd yr enillydd(wyr) yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar y diwrnod!
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hac Iaith 2024 - M-SParc