BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle

P’un a ydych chi’n weithiwr neu’n gyflogwr dylem i gyd fod yn ymwybodol o’n hawliau a’n cyfrifoldebau yn y gweithle.

Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn fwynhau gweithle lle cawn ein trin yn deg a theimlo’n ddiogel. Dyna pam rydym yn eich cysylltu â’r bobl a all eich helpu i gael gwybod mwy am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Gyflogwyr – Mynnwch wybod eich cyfrifoldebau
Dysgwch fwy am sut i gefnogi eich gweithwyr. Fel cyflogwr, mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn y gwaith ac yn cael eu trin yn dda. Os oes angen cyngor a chyfarwyddyd arnoch ynghylch gofalu am eich staff, mae yna bobl a all helpu.

Weithwyr – Mynnwch wybod eich hawliau
Dysgwch fwy am eich hawliau yn y gwaith. O gyngor am ddiswyddiadau yn sgil COVID 19 i gwestiynau am isafswm cyflog, gwyliau, iechyd a diogelwch yn y gwaith, a thâl salwch, mae yna bobl sy’n gallu helpu a darganfod manteision ymuno ag undeb.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.