Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar sut mae hawliau gwyliau a thâl yn gweithredu yn ystod y pandemig coronafeirws, lle mae’n wahanol i’r canllawiau hawliau gwyliau a thâl safonol.
Eu nod yw helpu cyflogwyr ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, o ran gweithwyr:
- sy’n parhau i weithio
- sydd wedi’u rhoi ar ffyrlo fel rhan o gynllun y llywodraeth sef Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws
Gweithwyr ar ffyrlo
Mae gweithwyr sydd ar ffyrlo yn parhau i gronni hawliau gwyliau statudol, ac unrhyw wyliau ychwanegol y darperir ar ei gyfer o dan eu contract cyflogaeth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.