BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpu cwsmeriaid agored i niwed – canllawiau ar gyfer siopau cyfleustra

Mae gweithgareddau bob dydd fel siopa yn gallu bod yn heriol i gwsmeriaid sy'n agored i niwed. 

Mae'r Association of Convenience Stores (ACS) wedi cynhyrchu canllawiau, sy'n amlinellu rhai o'r ffyrdd y gallwch ddiwallu anghenion cwsmeriaid bregus neu agored i niwed yn y siop. Gallwch gymryd llawer o gamau bach i sicrhau bod eich siopau'n fwy hwylus a hygyrch i bawb.

Gall hyn olygu darparu'r gwasanaeth mewn ffordd wahanol. Bydd gwneud addasiadau i'ch siop o fudd i'ch cwsmeriaid a'ch cydweithwyr, gan sicrhau bod eich siop yn hygyrch i bawb nawr ac yn y dyfodol.

Gallwch lawrlwytho'r canllawiau ar wefan ACS .
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.