BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her Technoleg Bwyd-Amaeth

farmer with digital tablet looking at crops

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Chanolfan Ragoriaeth SBRI yng Nghymru i lansio'r Her Technoleg Bwyd-Amaeth.

Mae'r Her yn ceisio datblygu arloesedd o fewn y sectorau amaethyddiaeth a bwyd, gan ymgorffori technolegau newydd ar y fferm neu ledled y gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth ehangach gan gynnwys gweithgynhyrchu a chynhyrchu.

Mae datblygu a mabwysiadu Technoleg Amaeth a Thechnoleg Amaeth Fanwl yn faes twf strategol ar gyfer economi Cymru ac mae Llywodraeth Cymru’n credu bod angen sylw manwl a map ffordd er mwyn ei ddatblygu. 

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £500,000 ar gyfer yr her hon sy'n ceisio cefnogi prosiectau dichonoldeb a all ddechrau mynd i'r afael â nodau'r Her.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Tachwedd 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Agri-Food Technology Challenge Fund | SBRI Centre of Excellence


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.